Closing date 12/7/24
The Engineering Education Scheme Wales Ltd is currently seeking a Delivery Officer, who will work under the supervision of the Activity Manager and liaise with the Chief Executive Officer to deliver exciting and motivating STEM activities in schools and to develop new project ideas, on a fixed term contract (maternity cover) from August 2024 to 31st December 2024. There is the possibility of an extension to March 2025, depending on available funding.
As a Delivery Officer, you will be responsible for delivering various STEM activities in schools. You will deliver sessions to groups of pupils within their schools across North Wales, as well as assisting the Activity Manager and other deliverers with the development of new STEM activities to be delivered across Wales.
You are advised to read the Job Description before applying for this vacancy.
The hours of work will be 37.5 hours per week, Monday to Friday and will be based at EESW North Wales Office, Llandudno (at Blessed William Davies Primary School). Travel across Wales will be required as part of this role and your own transport is essential. The salary for this position will be starting at £28,000 per annum (depending on experience), with an allowance of 28 days’ holiday (including bank holidays).
To download the Job Description, Application Form, Equal Opportunities Monitoring Form and Job Applicant Privacy notice please visit https://www.stemcymru.org.uk/home/resources/
Please send the completed application and equal opportunities forms and a copy of your CV to info@stemcymru.org.uk. Please note, applications will not be accepted unless the documentation is complete and the declaration on the application form signed.
This post is part funded by the Welsh Government Education Directorate and Innovation Team.
The role also includes delivery to schools in Conwy and Wrexham. The project is funded by the UK Government, driven by Levelling Up.
__________________________________________________
Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru Cyf yn chwilio am Swyddog Cyflenwi ar hyn o bryd, a fydd yn gweithio dan oruchwyliaeth y Rheolwr Gweithgareddau ac yn cydweithio â'r Prif Swyddog Cyfrifol i ddarparu gweithgareddau STEM cyffrous ac ysgogol mewn ysgolion ac i ddatblygu syniadau prosiect newydd, bydd y contract yn un cyfnod penodol (cyfnod mamolaeth) o fis Awst 2024 tan 31 Rhagfyr 2024. Mae’n bosib y bydd estyniad tan Mawrth 2025, os bydd cyllid ar gael.
Fel Swyddog Cyflenwi, byddwch chi'n gyfrifol am gyflwyno gweithgareddau STEM amrywiol mewn ysgolion. Byddwch yn cyflwyno sesiynau i grwpiau o ddisgyblion yn eu hysgolion ar draws Gogledd Cymru, yn ogystal â chynorthwyo'r Rheolwr Gweithgareddau a darparwyr eraill i ddatblygu gweithgareddau STEM newydd i'w darparu ledled Cymru.
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd cyn gwneud cais am y swydd hon.
Bydd yr oriau gwaith yn 37.5 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener a bydd wedi'i leoli yn Swyddfa Gogledd Cymru EESW, Llandudno (yn Ysgol Gynradd Bendigaid William Davies). Bydd gofyn teithio ar draws Cymru fel rhan o'r rôl hon ac mae defnyddio’ch cerbyd eich hun yn hanfodol. Bydd y cyflog yn dechrau ar £28,000 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad), gyda lwfans o 28 diwrnod o wyliau (yn cynnwys gwyliau banc).
I lawrlwytho'r disgrifiad swydd, ffurflen gais, ffurflen monitro cyfle cyfartal a’r hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgeiswyr am swyddi ewch i https://www.stemcymru.org.uk/cartref/adnoddau/
Anfonwch eich cais cyflawn a’r ffurflen cyfle cyfartal a chopi o'ch CV at info@stemcymru.org.uk. Sylwer, ni chaiff ceisiadau eu derbyn oni bai bod y dogfennau’n gyflawn a bod y datganiad ar y ffurflen gais wedi’i lofnodi.
Bydd y swydd yn gofyn i chi gael gwiriad DBS manylach a theithio i ysgolion ledled Cymru yn ôl yr angen.
Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gyfarwyddiaeth Addysg a Thîm Arloesedd Llywodraeth Cymru.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cyflwyno i ysgolion yng Nghonwy a Wrecsam. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU, wedi ei yrru gan Ffyniant Bro.